Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE)


Prosiect a ariannir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru
Partneriaeth rhwng Prifysgol Morgannwg, Gweithdy’r Menywod a Phrifysgol Caerdydd yw WAVE, a diben dod â’r partneriaid hynny ynghyd yw mynd ati i wneud prosiect arloesol ar gyflogau cyfartal.
Nod prosiect WAVE, felly, yw deall a ‘tharfu’ ar y ffyrdd y gwelir yr anghydraddoldebau ynghylch cyflogau drwodd a thro yn y gwahaniaethu galwedigaethol mewn cyflogaeth a hunangyflogaeth, yn y ffyrdd y caiff gwaith menywod ei roi ar gontract, ac yn y ffyrdd y caiff systemau talu cyflogau eu gweithredu.
Mae’r ffigurau o’r economi cyfan am y bylchau rhwng y cyflogau a gaiff dynion a menywod yn cuddio’r gwahanol batrymau o anghydraddoldeb mewn sectorau, diwydiannau a gweithleoedd. Gellir gwneud newidiadau ar lefel y gweithle ac mewn amrywiol fathau o gyflogaeth, ac yn eu tro gall y gwelliannau hynny esgor ar ragor o degwch i bawb.
I’r diben hwnnw, bydd Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio’n uniongyrchol gydag amryw o gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i ddadansoddi eu data am eu gweithwyr o ran eu cyflogau, eu galwedigaethau, eu swyddi, eu graddau a’r mathau o gyflogaeth (amser-llawn/rhan-amser) sydd ganddynt.
Ar ôl gwneud hynny, rhoir prawf ar ffyrdd newydd, tecach a mwy effeithlon o drefnu gwaith (er enghraifft, dod o hyd i wella’r ffordd ‘arferol’ o ddefnyddio contractau am weithio am nifer fach o oriau’n rhan-amser mewn swyddi gofalu a glanhau a swyddi clerigol – y swyddi y barnwyd yn draddodiadol eu bod yn ‘waith menywod’). Bydd modd i hyd at 20 o sefydliadau ‘ddilyn’ y daith ddysgu honno, dysgu sut mae datblygu setiau data am alwedigaethau a chyflogau eu gweithwyr eu hunain, a dadansoddi’r canlyniadau.
Bydd tîm WAVE ym Mhrifysgol Caerdydd hefyd yn gwneud amryw o archwiliadau mwy traddodiadol o’r cyflogau y bydd cyflogwyr yn eu talu i’w gweithwyr, a hynny ar sail gyfatebol/gwerth cyfartal i weld sut y gall systemau talu greu gwahaniaethau mewn cyflogau ac i wneud yr ymchwil waelodol i wahaniaethu galwedigaethol ar gyfer y prosiect drwyddo draw.
I grynhoi, mae gweithgareddau WAVE Prifysgol Caerdydd yn cynnwys:
- Dadansoddi rhagor ar ddata’r LFS/APS/ASHE i allu mapio dosbarthiad y ddau ryw yn ôl eu galwedigaethau a’u cyflogau
- Astudiaethau achos chyflogwr: casglu a dadansoddi data am eu gweithluoedd i ganfod gwahaniaethau ar sail galwedigaeth a chontract, a chyfraniad y gwahaniaethau hynny i’r gwahaniaethau yn y cyflogau a gaiff dynion a menywod
- Archwiliad Cyflog Cyfartal
- Astudiaeth achos feintiol ac ansoddol yn sectorau’r economi gwybodaeth: TG, Biowyddoniaeth, yr ‘economi gwyrdd’
- Astudiaeth i werthuso’r hyfforddiant rheoli TG a roir gan Weithdy’r Menywod
- Ymchwil ansoddol gyda menywod sy’n symud i alwedigaethau lle nad oes gwahaniaethau rhwng cyflogau dynion a menywod, a hynny gyda rhai sy’n cymryd rhan yn hyfforddiant Gweithdy’r Menywod.
Gweithgareddau’r Partneriaid
Bydd Prifysgol Morgannwg (Y Ganolfan Fenter: Canolbwynt Entrepreneuriaeth Menywod a’r Gyfadran Busnes a Chymdeithas) yn hoelio’i sylw ar fenywod a hunangyflogaeth, a’i nod fydd taclo’r gwahaniaethu llorweddol a fertigol mewn hunangyflogaeth gan fod hwnnw’n ddrych o’r hyn sy’n digwydd yn y farchnad lafur yn gyffredinol. Datblygir prosesau modelu rolau, rhwydweithio, clystyru a mentora. Darperir modiwlau i raddedigion ac ôl-raddedigion i geisio codi ymwybyddiaeth a dyheadau ac i ddatblygu cyfalaf dynol.
Nod Gweithdy’r Menywod fydd rhoi sylw i’r elfennau sy’n rhwystro menywod rhag symud ymlaen mewn galwedigaethau lle ceir ar y mwyaf o ddynion, a sicrhau bod menywod mewn sefyllfa dda i lenwi’r bylchau o ran sgiliau ac ychwanegu gwerth at sectorau newydd o’r economi – yn y sector sy’n datblygu o ran y technolegau gwyrdd, er enghraifft. Canolbwyntir yn arbennig ar y Sectorau Busnes a Thechnoleg Gwybodaeth (TG) ac Adeiladu/yr Amgylchedd Adeiledig.
Nod y prosiect yw amlygu parch at gyfraniad cyfredol menywod i’r economi a hwyluso’u symud i waith neu batrymau gweithio lle na cheir y gwahaniaethu arferol a lle cânt well cyflogau ac amodau gweithio ac ychwanegu rhagor o werth at economi Cymru drwyddo draw.
I gael gwybod rhagor, e-bostiwch: WAVE@cardiff.ac.uk
Neu ewch i wefan WAVE (bydd hi ar waith cyn hir)
Tim WAVE
Alison Parken
Teresa Rees
Luke Sloan
Eva Pocher
Amanda Kidd
Jo-Ann Hall
Further Resources
Cefndir Y Prosiect
Digwyddiadau
Y Cwis Cyflog Cyfartal
Y Llyfrgell Cyflog Cyfartal
Yr Archif Cyflog Cyfartal
