Cydraddoldeb2020: Creu gweledigaeth dros Gymru
Starts: 11 September 2012

Crynodeb a gwerthusiad o’r ffurflenni sylwadau
O’r can pedwar deg wyth o bobl a fynychodd y gynhadledd, dychwelodd tri deg wyth ohonynt ffurflenni sylwadau. Byddem yn gwerthfawrogi petai mwy o fynychwyr yn dychwelyd eu ffurflenni, ac mae modd i chi lenwi ffurflen yn electronig a’i dychwelyd trwy e-bost at equality2020@caerdydd.ac.uk neu anfon copi caled yn y post. Mae copi o'r ffurflenni sylwadau ar gael i'w lawrlwytho yma.
Uchafbwynt y diwrnod
Dewisodd y rhan fwyaf o ymatebwyr siaradwr wnaeth eu hysbrydoli nhw gyda’i gyflwyniad. Canmolwyd effaith y mesuriadau diwygio lles, pum her allweddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydraddoldeb mewn cyfnod anodd a chyflwyniadau’r sector gwirfoddol gan Anabledd Cymru, Age Cymru, BAWSO, Stonewall Cymru a CGGC fwyaf aml. Yn ogystal, nododd nifer mai’r gweithdai yng nghwmni’r academyddion oedd uchafbwynt y diwrnod.
Y weledigaeth o gydraddoldeb y cymerodd y mynychwyr yn ôl i’w sefydliadau
Ymysg nifer o ymatebion, rhestrwyd y canlynol: gwneud cydraddoldeb yn gyfrifoldeb pawb; mwy o rwydweithio, rhannu syniadau, ymgysylltu â sefydliadau; dod ag agendâu iechyd, addysg, cydraddoldeb, tlodi ac ansawdd ynghyd i greu gweledigaeth ar y cyd; gweithio mewn partneriaeth a sicrhau bod pob rhan o’r sefydliad yn deall ac yn gweithredu yn unol â’r nodau dros gydraddoldeb oherwydd mae hynny’n rhan o gyflenwi gwasanaeth sy’n darparu ar gyfer pawb ac yn hyrwyddo cydraddoldeb wrth wneud.
Cefnogaeth dros gynnal cynhadledd cydraddoldeb yn 2013
Roedd yna gefnogaeth ysgubol dros gynnal cynhadledd cydraddoldeb flynyddol.
Ffocws digwyddiad 2013
Ni ddaeth un ffocws penodol i’r amlwg o’r ymatebion, ond roedd yr awgrymiadau yn cynnwys: gweithio mewn partneriaeth, adolygiad o’r effaith mae triniaeth llywodraeth San Steffan o’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ei chael; asesiad o’r gweithrediadau o dan Ddyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru, gan gynnwys enghreifftiau o arferion da a drwg; diweddariad ar y mesuriadau diwygio lles; sut mae strategaethau a pholisïau cydraddoldeb yn cael eu hintegreiddio i hyrwyddo cydraddoldeb; y sylfaen meddwl/ymchwil/tystiolaeth ddiweddaraf o ran cydraddoldeb yng Nghymru; adolygu effaith y Gemau Paralympaidd o ran agweddau tuag at bobl anabl; y safbwynt diweddaraf o ran anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol; gweithredu ac effeithiolrwydd gweithredol ar gyfer lleoli cydraddoldeb yn y brif ffrwd a datblygu ymagwedd integredig ymysg sefydliadau.
Awgrymiadau ar gyfer gwella
Derbyniwyd nifer o awgrymiadau adeiladol mewn cysylltiad â’r lleoliad.
Gwybodaeth Bellach
Other information
Open To: Staff and Students
