Skip to content
Skip to navigation menu

 

Gwybodaeth Pellach: Rhaglen Meistr mewn Ymarfer Addysgol

Students and MEP Partner Institutions

Meistr mewn Ymarfer Addysgol (MYA) – dyfarniad newydd i athrawon yng Nghymru

Mae’r radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol (MYA) yn gyfle unigryw a chyffrous i athrawon newydd yng Nghymru estyn a chynyddu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u hymarfer proffesiynol. O 2012-13 ymlaen, caiff athrawon sydd newydd ymgymhwyso ac mewn swydd mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru wneud cais i ddilyn y rhaglen hon fel rhan o’u datblygiad proffesiynol cynnar. Ariannir y radd MYA yn llawn gan Lywodraeth Cymru a bydd hi’n radd hynod ymarferol, yn manteisio ar ymchwil ac wedi’i gwreiddio yn y profiadau proffesiynol gorau.

Mae’r MYA yn gosod Cymru ar flaen y gad o ran datblygiad proffesiynol athrawon yn y DU ac yn rhyngwladol. Bydd yn arfogi athrawon â’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol i leddfu effeithiau amddifadedd cymdeithasol ac economaidd ar gyflawniad addysgol, i wella canlyniadau dysgwyr ac i gynnal patrwm o wella ymarfer proffesiynol gydol oes.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i helpu athrawon ac ysgolion i wella ymarfer addysgu ac i godi safonau addysgol mewn ysgolion ledled Cymru. Caiff y rhai sy’n cymryd rhan ynddi gymorth mentora a chefnogaeth o safon uchel, mynediad i adnoddau o safon ar-lein, a chyfleoedd i rannu arferion da. Mae cynnwys y rhaglen, a’r asesu arni, wedi’i gynllunio i gynorthwyo a gwella ymarfer addysgu a datblygiad proffesiynol. Bydd y rhaglen yn ymdrin â meysydd allweddol dysgu proffesiynol, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd, rheoli ymddygiad, lleddfu effaith tlodi ar gyflawniad, anghenion dysgu ychwanegol, datblygiad plant, ymarfer myfyriol, arwain dysgu ac ymholi’n weithgar.

Student Image (MEP)

Bydd yr MYA yn fodd i’r cyfranogwyr

  • estyn a gwella’u hymarfer proffesiynol i wella canlyniadau addysgol plant a phobl ifanc
  • datblygu ac estyn eu dealltwriaeth o’r syniadaeth gyfredol mewn perthynas â’r meysydd dysgu proffesiynol allweddol
  • datblygu ac estyn y gallu i ddadansoddi, beirniadu a datblygu eu hymarfer proffesiynol eu hunain ac ymarfer proffesiynol pobl eraill
  • datblygu a dyfnhau eu sgiliau deallusol, personol a phroffesiynol a’u sgiliau trefnu a chyfathrebu
  • ymuno â chymunedau dysgu proffesiynol a dysgu eu harwain – rhwng ysgolion ac o’u mewn
  • cynllunio a dal i gael datblygiad proffesiynol drwy gydol eu gyrfaoedd

Mae’r radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol yn cael ei darparu’n rhanbarthol ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, a hynny gan gyfuniad o Brifysgolion Caerdydd, Aberystwyth a Bangor, a Sefydliad Addysg Prifysgol Llundain. Caiff y rhaglen gymorth rhwydwaith o athro-mentoriaid profiadol. Bydd y radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol yn arwain at ddyfarniad gan Brifysgol Caerdydd.

Mae llyfryn cyhoeddusrwydd yr MYA ar gael i lawrlwytho yma.

Meini prawf cymhwyster i ddilyn cwrs gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol (MYA)

  • meddu ar radd gyntaf gydnabyddedig
  • meddu ar Statws Athro Cymwysedig a bod yn eich blwyddyn gyflogedig gyntaf yn addysgu, mewn rôl sy’n cyfrif tuag at y broses sefydlu statudol
  • bod yn athro ysgol cyflogedig sydd newydd gymhwyso mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru
  • bod wedi’ch cofrestru gyda Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC) ac wedi’ch cymeradwyo ganddynt yn unigolyn cymwys i wneud cais i ddilyn cwrs Athro mewn Ymarfer Addysgol
  • bod wedi’ch cyflogi ers un tymor llawn o leiaf yn un neu ragor o’r ysgolion a gynhelir yng Nghymru, gyda chontract sy’n cyfateb i 0.4 o leiaf
  • meddu ar gontract cychwynnol hyd at ddiwedd tymor y gwanwyn 2013
  • bod eich prifathro/prifathrawon wedi cytuno ichi fwrw ymlaen â’r cais.

Os oes gennych gwestiwn am y meini prawf, cysylltwch â WalesMEP@caerdydd.ac.uk.

Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol – Strwythur y Rhaglen

Bydd y cyfle cyffrous hwn i bob Athro Newydd Gymhwyso cymwys yng Nghymru yn cynnwys naw modiwl craidd sydd i’w cyflwyno dros dair blynedd. Mae modiwlau’r Radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol wedi’u cynllunio i helpu a datblygu’ch ymarfer proffesiynol fel Athro Newydd Gymhwyso.

Caiff y rhaglen Meistr unigryw hon, sy’n rhaglen ran-amser o ddysgu o bell, ei chyflwyno’n bennaf drwy amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd, sef Dysgu Canolog, a thrwy ddigwyddiadau dysgu undydd y modiwlau (y mae’n orfodol i chi ddod iddynt) lle caiff y modiwlau eu lansio gan arweinwyr y modiwlau. Yn ystod y digwyddiadau dysgu, cewch chi’ch cyflwyno i’ch Mentoriaid Allanol, sef mentoriaid a fydd yn eich helpu i ddysgu yn yr ysgol a thrwy Ddysgu Canolog.

Bydd gofyn i chi gyflawni amryw o dasgau ffurfiannol creiddiol ac asesiadau crynodol drwy Ddysgu Canolog i’ch helpu chi i ddysgu a datblygu drwy’r rhaglen hon. Caiff fforymau trafod eu defnyddio i chi drafod y tasgau ffurfiannol creiddiol a’r asesiadau crynodol drwy Ddysgu Canolog gyda’ch cyd-fyfyrwyr, eich Mentoriaid Allanol ac arweinwyr y modiwlau.

Gan mai’n nod ni yw cynnig amrywiol ddulliau asesu, bydd strwythur asesu pob modiwl wedi’i gynllunio i gyd-fynd â chanlyniadau dysgu y modiwl hwnnw. Ni fydd y cyfan o’r 15 o asesiadau’r modiwlau sydd â chredyd ddim yn fwy na 3,000 o eiriau. Er enghraifft, gallai hynny fod ar ffurf prosiect poster sy’n cyfateb i fil o eiriau ac aseiniad sy’n 2,000 o eiriau.

Caiff modiwl y Prosiect Ymholi sy’n seiliedig ar Weithredu, ac sy’n werth 60 credyd, ei seilio ar brofiad yr Athro Newydd Gymhwyso o weithio yn yr ystafell ddosbarth, a bydd yn esgor ar ddarn o waith a fydd yn15,000 o eiriau o hyd. Caiff y modiwl ei lansio ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf ond ni chaiff y gwaith arno mo’i gyflwyno tan ddiwedd y rhaglen. Yn ogystal â chael cymorth eich Mentor Allanol, fe neilltuir goruchwylydd i chi i’ch helpu drwy gydol eich prosiect.

Cyflwynir y modiwlau yn y drefn isod – trefn sydd wedi’i chynllunio gan gadw mewn cof yr adegau prysuraf i Athrawon Newydd Gymhwyso.

 

Blwyddyn 1
Modiwl Math o aseiniad Credydau Amseriad y Digwyddiad Dysgu
Cyflwyniad i Ymchwilio Proffesiynol gan AthrawonGwaith Cwrs15 CredydDechrau Ionawr
Addysg a Datblygiad Plant a Phobl Ifanc (0-19)Gwaith Cwrs15 CredydCanol Chwefror
Rheoli YmddygiadGwaith Cwrs15 CredydDiwedd Ebrill
Lansio’r Prosiect Ymholi i Weithredu Traethawd Hir 60 Credyd Diwedd Tachwedd
Blwyddyn 2
LlythrenneddGwaith Cwrs15 Credyd

Rhan 1 – Canol Ionawr

Rhan 2 – Canol Mawrth

RhifeddGwaith Cwrs15 Credyd

Rhan 1 – Canol Ionawr

Rhan 2 – Canol Mawrth

Anghenion Dysgu YchwanegolGwaith Cwrs15 Credyd

Rhan 1 – Canol Mai

Rhan 2 – Dechrau Mehefin

Cwtogi ar effaith tlodi ar gyrhaeddiadGwaith Cwrs15 Credyd

Rhan 1 – Canol Mai

Rhan 2 – Dechrau Mehefin

Blwyddyn 3
ArwainGwaith Cwrs15 CredydDiwedd Tachwedd
Prosiect Ymholi i WeithreduTraethawd Hir60 CredydDechrau Mai

Rhaid i’r myfyrwyr gwblhau modiwl SIT801 – Cyflwyniad i Ymchwilio Proffesiynol gan Athrawon (15 credyd) – yn llwyddiannus cyn symud ymlaen i Flwyddyn 2 y rhaglen. Rhaid i’r myfyrwyr hefyd gwblhau modiwl SIT807 – Arwain – er mwyn symud ymlaen i fodiwl SIT808 – y Prosiect Ymholi i Weithredu.

Caiff y myfyrwyr gatalogau manwl o’r modiwlau, ac yn y rheiny fe restrir canlyniadau dysgu y modiwlau ac amserlenni’r asesu.

Cyswllt

Darllenwch adrannau Gwybodaeth Pellach a Cwestiynau a Ofynnir yn Aml o'r wefan cyn cysylltu a'r swyddfa weinyddol os gwelwch yn dda.

Os bydd gennych gwestiwn cyffredinol neu os hoffech gael gwybod rhagor, cysylltwch â swyddfa weinyddol yr MYA:

Ffon: +44 (0)29 208 70947
E-bost: WalesMEP@caerdydd.ac.uk

Sut mae gwneud cais 2012-13

Ymwelwch a dudalen "Gwneud Cais".