Newyddion: Rhaglen Meistr mewn Ymarfer Addysgol

13/11/12 Pam nad ymunwch chi â digwyddiadau fforwm trafod a chyfarfod â thîm yr MYA?
Byddwn ni’n cynnal amryw o Nosweithiau Agored Rhithwir drwy Twitter a Facebook a bydd staff academaidd a gweinyddol ar-lein yn barod i ateb eich holl ymholiadau ynglŷn â’r MYA. Bydd cyfle hefyd i chi ymweld â ni adeg Noson Agored Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Mwy
01/10/12 Angen mentoriaid ar gyfer rhaglen Meistr (DC)
Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd enwebiadau oddi wrth Ysgolion ac Awdurdodau Lleol ar gyfer ymarferwyr profiadol neu unigolion a chanddynt brofiad diweddar a pherthnasol mewn ymarfer addysgol i gymryd y cyfle i ddod yn fentor allanol. Mwy
01/10/12 Ewch i wefan newydd Dysgu Cymru
Mae Dysgu Cymru yn adnodd ar-lein newydd sy'n anelu at godi safonau mewn ysgolion ledled Cymru.
Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi safonau, mae Dysgu Cymru yn adnodd ar-lein sy'n ceisio diwallu anghenion ymarferwyr addysgol. Mae pob tudalen yn rhoi amrywiaeth o gymorth a chyngor wedi'u teilwra i ymarferwyr, gan grynhoi'r wybodaeth sydd ar gael mewn man canolog a'i gwneud yn symlach i chi chwilio am wybodaeth ddiweddaraf. Mwy
24/09/12 Annog athrawon newydd ar gwrs sgiliu (BBC)
Mae athrawon newydd yng Nghymru wedi cael eu hannog i fynd ar gwrs ôl-radd newydd y mae'r Gweinidog Addysg yn dweud fydd yn codi safonau mewn ysgolion. Bydd Rhaglen Meistri mewn Addysg yn canolbwyntio ar sgiliau i daclo llythrennedd, rhifedd ac ymddygiad. Mwy
24/09/12 Adnoddau dysgu newydd a gyhoeddwyd mewn ymgais i wella safonau ysgolion Cymru (Wales On-Line)
Mae gwefan newydd sy'n rhoi adnoddau ar gyfer athrawon yng Nghymru yn mynd yn fyw heddiw fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i wella safonau ysgolion. Fe'i cynlluniwyd ar gyfer holl ymarferwyr dysgu ac yn dod cyn y lansiad 'meistr newydd mewn arfer addysgol (MYA) y mis nesaf. (Saesneg yn unig) Mwy
21/05/12 Chwilio am fentoriaid ar gyfer Rhaglen y Radd Meistr (LC)
Mae’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn chwilio am fentoriaid ar gyfer y rhaglen newydd sef y Rhaglen Meistr mewn Addysg. Mwy
11/05/12 Rhaglen Meistr mewn Ymarfer Addysgol (LC)
O fis Medi 2012 bydd gan Athrawon Newydd Gymhwyso y cyfle i ddilyn rhaglen Meistr. Mwy
24/04/12 Y Brifysgol i gyflwyno gradd Meistr Addysgu newydd Cymru (PC)
Mae Caerdydd yn un o bedair prifysgol a fu’n llwyddiannus mewn cais i achredu, cyflwyno a dyfarnu gradd newydd Meistr mewn Arfer Addysgu Cymru, a fydd yn helpu i godi safonau addysgu ledled Cymru. Mwy
01/02/2012 Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol – yr ymarfer caffael yn dechrau (LC)
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd Sefydliadau Addysg Uwch i dendro er mwyn achredu, darparu a dyfarnu’r Radd Meistr newydd mewn Ymarfer Addysgol (MYA). Mwy
