Gwaith Cymdeithasol (MA)
Croeso i’r MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi’i lleoli yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, sydd â hanes hir o addysg ac ymchwil ym maes gwaith cymdeithasol. Er Medi 2005, yn dilyn diwygio mawr yn addysg gwaith cymdeithasol yn ddiweddar, mae’r Brifysgol wedi cynnig addysg a hyfforddiant ar gyfer y dyfarniad proffesiynol newydd, gradd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol. O orffen y dyfarniad hwn yn llwyddiannus, bydd gan fyfyrwyr yr hawl i ddefnyddio’r teitl gwarchodedig o “weithiwr cymdeithasol”.
Uchafbwyntiau’r Cwrs:
- Perthynas staff/myfyriwr rhagorol
- Partneriaethau rhagorol gyda darparwyr gofal cymdeithasol
- Traddodiad cryf o ymchwil ac ysgoloriaeth. Mae’r holl staff addysgu gwaith cymdeithasol yn ymchwilwyr gweithredol ac yn ymarferwyr profiadol.
- Wedi ei leoli o fewn amgylchedd ehangach y gwyddorau cymdeithasol, gan gynnig dull deallus ac allweddol i dderbyn a gwerthfawrogi gwybodaeth am y cyd-destun cymdeithasol, lle mae gwaith cymdeithasol yn cael ei arfer.
- Cyflawnodd yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, sydd â’r grŵp Gwaith Cymdeithasol yn rhan ohoni, yn uchel yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf
- Ysgoloriaethau gwarantedig i bob myfyriwr sy’n ymgeisio’n uniongyrchol, a ffioedd cwrs wedi’u talu.
- Cyfle i astudio drwy lwybr sy’n a leolir ar gyflogaeth, ar gyfer y rheiny sydd yn y sector gofal cymdeithasol yn barod.
- Y cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen cyfnewid myfyrwyr (ERASMUS) a chynnal astudiaeth dramor (ar hyn o bryd yn y Ffindir, Yr Almaen neu Lithwania)
Mae’r rhaglen yn anelu at ddarparu:
- Profiad addysgiadol sy’n sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu bwrw ati a mynd i’r afael yn feirniadol â’r wybodaeth ffurfiol sy’n sail i arfer gwaith cymdeithasol creiddiol.
- Yr hyfforddiant proffesiynol sylfaenol mewn gwaith cymdeithasol i fodloni’r gofynion a osodir gan Gyngor Gofal Cymru.
- Rhaglen o astudiaeth sy’n datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd sy’n ofynnol ar gyfer arfer effeithiol heb fod yn wahaniaethol mewn cymdeithas amrywiol.
- Datblygu cymwysterau personol a deallusol y myfyrwyr, fel eu bod yn gallu ymateb yn effeithiol i newidiadau mewn cymdeithas ac arfer gwaith cymdeithasol
- Paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith cyflogedig, a gosod y seiliau ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
Nifer a dderbyniwyd yn 2011: 48
Mae’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol hefyd yn cynnig astudiaeth ôl-gymhwysol i weithwyr cymdeithasol profiadol: yr MSc mewn Gwaith Cymdeithasol Uwch a’r Ddoethuriaeth broffesiynol mewn Gwaith Cymdeithasol.
Amcanion y Rhaglen
Amcan y rhaglen yw galluogi myfyrwyr i adeiladu ar y profiad academaidd a galwedigaethol sydd ganddynt eisoes ac i gael cymhwyster proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol o fewn cyfnod o 2 flynedd. Er bod y rhaglen wedi ei chyfeirio at ôl-raddedigion yn bennaf, mewn rhai amgylchiadau, mae’r rhaglen yn cynnig llwybr i rai sydd heb raddio i gymhwyso fel gweithwyr cymdeithasol.
Gofynion Mynediad
Gwahoddir ceisiadau yn uniongyrchol a chyda chefnogaeth cyflogwr fel ei gilydd:
- Graddedigion â gradd berthnasol a ddyfarnwyd yn 2ii neu uwch neu gyda 2 flynedd o brofiad perthnasol
- Rhai heb radd sy’n 25 oed neu hŷn, a chyda 2 flynedd o brofiad perthnasol a thystiolaeth o allu academaidd cyfatebol i radd.
Yn unol â meini prawf cymeradwyo rhaglen Cyngor Gofal Cymru, wrth ymgeisio, mae’n rhaid i’r holl ymgeiswyr gyfeirio ar brofiad perthnasol mewn gofal cymdeithasol a rhoi tystiolaeth o Sgiliau Allweddol mewn cyfathrebu a rhifedd sy’n cyrraedd Lefel 2 (TGAU A-C) neu sy’n gyfartal â hyn. Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos gallu academaidd ac amlinellu eu profiad blaenorol o ran gofal cymdeithasol gan gyfeirio at y ffordd y mae eu profiad blaenorol wedi helpu eu dealltwriaeth o ofal cymdeithasol a/neu rôl gwaith cymdeithasol
Strwythur y Rhaglen
Bydd y rhaglen yn cynnwys 100 o ddiwrnodau addysgu a leolir yn y brifysgol, a 100 o ddiwrnodau dysgu arfer a leolir yn yr asiantaeth a fydd yn cael eu hasesu, ym Mlwyddyn Un a Blwyddyn Dau. Mae’r holl ddysgu ac addysgu a leolir yn y brifysgol a’r asiantaeth, wedi eu strwythuro yn ôl Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Cymdeithasol a gofynion Y Cyngor Gofal Cymru. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno yn gynnar ym mis Medi hyd yn hwyr ym mis Gorffennaf pob blwyddyn, gyda chyfnodau gwyliau o un wythnos yn ystod y Nadolig a’r Pasg.
Cynnwys y Cwrs
Mae blwyddyn gyntaf y cwrs yn cynnwys yr unedau craidd canlynol:
- Sylfeini’r Ddeddf
- Cyflwyniad i Ymarfer Gwaith Cymdeithasol a Chyflwyniad i Theori Gwaith Cymdeithasol
- Safbwyntiau Gwyddor Cymdeithasol
- Gwaith Cymdeithasol â phlant, pobl ifanc a theuluoedd
- Gwaith Cymdeithasol ag Oedolion
- Egwyddorion Dylunio Ymchwil
Mae’r ail flwyddyn yn cynnwys yr unedau canlynol:
- Gweithio o fewn ac ar draws sefydliadau
- Gweithio gydag Unigolion, Teuluoedd, Grwpiau a Chymunedau
- Prosesau Ymchwil/ Traethawd
Rhaglen Weithdy
- Grŵp Diddordeb Arbennig, maes arfer penodol - un i’w ddewis allan o Waith Cymdeithasol â Phlant, Pobl Ifanc ac Oedolion; a Gwaith Cymdeithasol ag Oedolion
Ffioedd a Chyllido
Mae’r rhan fwyaf, ond nid y cyfan, o’r ffioedd hyfforddiant yn cael eu talu gan Gyngor Gofal Cymru. Mae yna ysgoloriaeth i gynorthwyo â chostau byw yn ystod y cwrs. Edrychwch ar gwestiynau a ofynnir yn aml am fwy o wybodaeth.
Cyfeiriadur Staff
Teresa de Villiers
Jonathan Scourfield
Sally Holland
Andy Pithouse
Alyson Rees
Dolores Davey
Aled Jones
Colin Young
Steven Stanley
Abyd Quinn Aziz
Asesiad
Gweithredir asesiadau drwy nifer o ffyrdd gan gynnwys traethodau, gwaith prosiect, ac astudiaethau achosion, ayyb. Ceir arholiad ar gyfer y dysgu arfer a leolir yn yr asiantaeth, ac mae angen cymeradwyaeth llwyddiant gan yr asesydd arfer dynodedig, ynghyd â llwyddiant mewn gwaith academaidd.
Dylid gwneud ceisiadau drwy UCAS (Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau) ar http://www.ucas.ac.uk neu drwy ffonio 01242 544610.
See this course on the University's Coursefinder website.
