Quality of Research
Ysgol y Gymraeg
Research Assessment Exercise (2008)
| Unit of Assessment | Staff submitted (FTE) | By percentage, research activity in the submission judged to reach quality standard | ||||
|---|---|---|---|---|---|---|
| Celtic Studies (M56) | 8.00 | 4![]() |
3![]() |
2![]() |
1![]() |
UC |
| 15% | 40% | 30% | 15% | 0% | ||
(Overall quality profile in blocks of 5%)
Read this research profile in English
Research Profile
| Celtic Studies | ||
|---|---|---|
| Institution | Research Power | |
| University of Cambridge | 39.38 | |
| University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies | 38.75 | |
| Aberystwyth University | 36.96 | |
| University of Ulster | 34.72 | |
| University of Edinburgh | 30.00 | |
| Cardiff University | 20.40 | |
| Bangor University | 17.21 | |
| University of Glasgow | 15.30 | |
| Swansea University | 14.00 | |
| Queen's University Belfast | 10.25 | |
Table continues to n
Yn Ysgol y Gymraeg ymgymerir ag ymchwil arloesol sy’n berthnasol yn gymdeithasol, ac y mae gan ei hymchwilwyr rôl allweddol bwysig yn natblygiad y Gymraeg yn yr 21ain Ganrif.
Mae ymchwil yn yr Ysgol yn amrywio o’r canoloesol i’r cyfoes, o farddoniaeth i ryddiaith, o lenyddiaeth plant i astudiaethau merched. Mae’n cynnwys y Gymraeg a’i llenyddiaeth, ac y mae’r Ysgol yn arwain y ffordd mewn meysydd fel agweddau cymdeithasol a rhyngwladol ar gynllunio iaith, theori feirniadol a theori perfformio.
Enillir cyllid o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Leverhulme, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yr Academi Brydeinig, y Cyngor Prydeinig a’r UE. Mae dwy uned ymchwil yr Ysgol – sef Canolfan Uwchefrydiau Cymry America a’r Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio - yn ysgogi ymchwil rhyngddisgyblaethol ac yn rhyngweithio â phrosiectau arloesol ar draws y Brifysgol, gan gynnwys cydweithio â Sefydliad Ymchwil Caerdydd yn y Dyniaethau.
Dechreuodd prosiect Rhyddiaith Gymraeg 1350–1425 yn 2004 a’i gwblhau yn 2007. Fe’i hariannwyd gan yr AHRC.
Mae’r Ysgol yn torri tir newydd yn ei Chanolfan Uwchefrydiau Cymry America o ran astudio hanes ymfudo, iaith a diwylliant poblogaidd ymysg y Cymry a’u disgynyddion yn yr Unol Daleithiau, Canada a Phatagonia. Mae ymchwilwyr wedi meithrin cysylltiadau cryf â Phatagonia yn benodol trwy ddau brosiect ar ieithyddiaeth gymdeithasol y Gymraeg. Yn ogystal ag astudio sefyllfa gyfredol y Gymraeg ym Mhatagonia, maent hefyd yn canolbwyntio ar y prosesau economaidd-gymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol a effeithiodd ar y gymuned Gymraeg yn Ariannin oddi ar i’r ymsefydlwyr cyntaf gyrraedd yno.
Mae Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio yr Ysgol yn gartref i ymchwil wreiddiol ym maes cynllunio ieithyddol sy’n cyfrannu at ddatblygu polisi ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae’r gwaith cyfredol gyda Llywodraethau Iwerddon, Canada a’r Ffindir ynghyd â gwaith ymgynghorol gyda’r Academi Basgaidd a Lingua Mon (Barcelona) yn bwydo’n uniongyrchol i weithredu polisi ar lefelau cenedlaethol ac Ewropeaidd.
Mae buddsoddi mewn isadeiledd ymchwil wedi arwain at ddatblygu SCOLAR, sef llyfrgell ymchwil sy’n dod â chasgliadau’r Brifysgol o archifau a llyfrau prin ynghyd, ac a ariennir gan y Gronfa Fuddsoddi ar gyfer Ymchwil yn y Gwyddorau.
Mae prosiectau ymchwil yr Ysgol yn cynnwys cyfieithiad Saesneg newydd o’r campwaith canoloesol, Y Mabinogion, sy’n cael ei ystyried gan lawer fel un o gyfraniadau pwysicaf Cymru at lenyddiaeth Ewrop; astudiaeth o bregethu dramatig yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif, ac o waith Comisiynwyr Ieithydddol mewn nifer o wledydd. Mae adnoddau gwerthfawr ar y we, gan gynnwys prosiect a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, ‘Rhyddiaith Gymraeg 1350 - 1450’, ynghyd â gwefannau i hyrwyddo astudio baledi Cymraeg a’r emynyddes Ann Griffiths.
Mae Ysgol y Gymraeg ym mhrifddinas Cymru yn un o ysgolion gwreiddiol y Brifysgol ac y mae’n gartref i’r Gadair Gymraeg sefydledig hynaf. Mae’r Ysgol wedi cyfrannu at fywyd a diwylliant Cymru ers dros ganrif, ac wedi bod yn gartref i nifer o ysgolheigion a llenorion amlwg, gan gynnwys W. J. Gruffydd, G. J. Williams, A. O. H. Jarman a Saunders Lewis.

