Skip to content
Skip to navigation menu

 

Tynged yr Iaith – Darlith Caerdydd yn achub yr Iaith!

Fate of the Language – Cardiff Lecture saves the Welsh Language!

 

Ysgrifennodd Saunders Lewis ddarlith i’r radio yn 1962 dan y teitl – Tynged yr Iaith; ei fwriad oedd sbarduno Cymry Cymraeg i fynnu eu hawliau i ddefnyddio’r iaith Gymraeg; rhywbeth y honnodd fyddai’n gyfystyr a ‘chwyldro’. Er na lwyddodd i wireddu popeth a anelodd ati yn y ddarlith, yn sgil ei darlledu trawsnewidiwyd statws y Gymraeg mewn cymdeithas. (Roedd Saunders Lewis yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd).

Saunders Lewis wrote the BBC radio lecture – Tynged yr Iaith [Fate of the Welsh Language] in 1962; his intention was to urge Welsh speakers to demand their rights in using the language: something he claimed would be a revolution in itself. Although he did not achieve key aims with the lecture, in its wake Welsh language society underwent a major transformation. (Saunders Lewis was a lecturer at Cardiff University).

 

Act of Union between England and Wales, 1536

Act of Union between England and Wales, 1536

Cefndir hanesyddol

Cyn 1962 nid oedd gan siaradwyr Cymraeg bron dim hawliau cyfreithiol i wasanaethau yn yr iaith, ac roedd y cefndir hanesyddol yn un o ragfarn a difaterwch – o’r Ddeddf Uno yn 1536 a waharddodd yr iaith mewn llywodraeth, i adroddiadau llawn anwybodaeth y llywodraeth yn 1847/48 – cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol hyd yn oed, yn Saesneg am ddegawdau!

Historical background

Before 1962 Welsh speakers had no real rights to services in Welsh, and the historical background was one of prejudice and indifference – from the Act of Union, 1536 which banned Welsh in government, to the clearly ill-informed government reports of 1847/48 – even the national Eisteddfod was held in English for decades!

Saunders Lewis (1893-1985)

Saunders Lewis (1893-1985)

 

 

 

Y 1950au

Yn yr 1950au mynnodd y teulu cyffredin o Lanelli,  Mr and Mrs Beasley, eu ffufflenni trethi lleol yn y Gymraeg – ac arweiniodd hyn at ddegawd o ymgychu a chyhoeddusrwydd i’w hachos; nododd Saunders Lewis bwysigrwydd hyn yn ei araith.

The 1950s

In the 1950s Mr and Mrs Beasley, an ordinary Llanelli family, demanded their local rates form in Welsh – which led to a decade of campaigning and publicity for their cause; Saunders Lewis noted the key importance of this in his lecture.

 

 

 

Baner ac Amserau Cymru, 15 Feb 1962

Baner ac Amserau Cymru, 15 Feb 1962

Ymgyrchu

Roedd y 1960au yn gyfnod o anufudd-dod sifil mewn gwledydd dros y byd – ac yng Nghymru'r achos pennaf oedd yr ymgyrchoedd dros hawliau siaradwyr Cymraeg. Sefydlwyd ‘Cymdeithas yr Iaith Gymraeg’ yn sgil darlith Saunders Lewis, ac fe arweiniodd y frwydr dros hawliau ieithyddol am ddegawdau.
Cyn-fyfyriwr Prifysgol Caerdydd oedd un o’r arweinwyr pennaf am ddegawdau – Dafydd Iwan (Jones)!


Campaigning

The 1960s were a period of civil unrest across the world, and in Wales the key protests were for language rights for Welsh speakers. Cymdeithas yr Iaith Gymraeg [The ‘Welsh Language Society’ ] was founded in the wake of Saunders Lewis’ lecture, and it led the campaigns for rights for Welsh speakers for decades.
A previous Cardiff University student was one of the main leaders for decades – Dafydd Iwan (Jones)!

 

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Maniffesto 1972, 1982, 1992, 2002

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Maniffesto 1972, 1982, 1992, 2002

Mudiadau cymdeithasol

Lledodd y tonnau o ymgyrchoedd gwahanol i sefydlu nifer o fudiadau cymdeithasol Cymraeg, i fenywod, myfyrwyr, dysgwyr, ac ati; a chynyddodd mudiadau eraill eu haelodaeth, mewn undebau llafur, mudiadau ieuenctid, ac ati. (Mae llyfrgell Prifysgol Caerdydd yn dal archifau un o’r prif fudiadau – UCAC).

Social organisations

The waves of protest led to establishing a number of other Welsh language social organisations, for women, students, learners, etc.; and others increased their membership, in trade unions, youth movements, and so on. (Cardiff University Library holds the archives of one of the key teachers’ unions, UCAC).

 

S4C annual report, 1982/83

S4C annual report, 1982/83

Y cyfryngau

Gan nad oedd y BBC nag ITV yn darparu sianeli Cymraeg, dechreuodd un o’r ymgyrchoedd mwyaf llwyddiannus am ddegawdau – yr ymgyrch i sefydlu sianel teledu Cymraeg. Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu sefydlwyd S4C yn1982, ac fe ledodd hyn at dwf mewn cyfryngau Cymraeg eraill am gyfnod hir. Hefyd, gan nad oedd papur dyddiol Cymraeg fe ddechreuodd ymgyrch i sefydlu un yn 2004, ond oherwydd diffyg hyder a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru fethodd yr ymgyrch i sefydlu'r fenter hon.

The media

Since neither BBC nor ITV provided a Welsh language TV channel one of the most successful campaigns of the period targeted establishing such a channel. After years of campaigning, a Welsh language TV channel, S4C, was established in 1982, and this led to a growth for other Welsh media for a long period. Also, since no daily Welsh language newspaper existed a campaign began in 2004 to establish one; but because of a lack of will, and support, by the Welsh Government this campaign failed.

 

Meithrin: Bwletin Mudiad Ysgolion Meithrin, Gwanwyn 1972

Meithrin: Bwletin Mudiad Ysgolion Meithrin, Gwanwyn 1972

Addysg

Er yr oedd un ysgol Gymraeg ei hiaith yn yr 1940au, nid oedd y llywodraeth yn gefnogol i addysg cyfrwng Cymraeg tan y 1960au, pan ddechreuodd ymgyrchoedd penodol ar draws Cymru. Sefydlwyd nifer o fudiadau i ymgyrchu yn y maes hwn, ac fe lwyddon nhw i sefydlu cyfres o ysgolion Cymraeg eu hiaith, gyda’r twf mwyaf yn y de ddwyrain, gyda nifer cynyddol o rieni yn dewis addysg Gymraeg i’w plant. Yn ddiweddar hefyd, cyd-drefnwyd addysg uwch Gymraeg am y tro cyntaf, mewn Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Education

Although a single Welsh medium school was established in the late 1940s, little support was given to Welsh medium education by government until the 1960s, when it became a key target of campaigns across Wales. Various campaign organisations were established, and a major series of successes in establishing new Welsh medium schools has continued to this day, with south east Wales showing the largest growth of parents choosing Welsh medium education for their children. Recently too, a Coleg Cymraeg  Cenedlaethol has been established, to coordinate Welsh medium higher education for the first time.

 

Welsh Language Act 1993

Welsh Language Act 1993

Deddfwriaeth

Mewn cyfres o ddeddfau yn ymwneud â’r iaith Gymraeg, mae’r llywodraeth wedi ymateb i’r holl ymgyrchu a chyhoeddusrwydd dros y blynyddoedd, ac erbyn hyn mae hawliau cyfreithiol siaradwyr Cymraeg bron cystal â’r rhai i siaradwyr Saesneg – yn y sector cyhoeddus. Pwyslais y llywodraeth ar hyn o bryd, a’r Comisiynydd Iaith newydd, yw annog a hybu defnydd o’r iaith yn yr holl feysydd newydd lle mae deddfwriaeth wedi newid.

Legislation

In a series of laws concerning the Welsh language the government has responded to all the campaigning and publicity over the years, and today the legal rights of Welsh speakers are almost equal to those of English speakers – in the public sector. The emphasis of the government currently, and the new Welsh Language Commissioner, is to encourage and promote the use of Welsh in the areas where the new legislation now extends.