From Celtic Languages to the Roman Alphabet
Curated by John Caulfield
School of Welsh

Book of Kells / Leabhar Cheannannais, ca. 800 AD
Although the decorated letters – χ and ρ – shown here are from the Greek alphabet, they illustrate the distinctly Celtic artistry which made Irish monks the finest scribes in Europe at the time.
Er bod y llythyrau addurniedig – χ a ρ – a ddangosir yma yn dod o’r wyddor Groeg, maen nhw’n enghraifft o’r gelfyddyd Geltaidd nodedig a olygai mai mynachod Gwyddelig oedd y copïwyr gorau yn Ewrop ar y pryd.
The Book of Leinster / Leabhar Laighean, ca. 1160
Irish monks developed a highly elaborate system of signs and letters to abbreviate Irish words in their manuscripts. In this extract, the name Conchobar (written after the word Clanna at the bottom left-hand side) is spelt with a backwards 'c' representing 'con' and a stroke on the 'b' representing 'ar'.
Datblygodd mynachod Gwyddelig system hynod gymhleth o arwyddion a llythrennau er mwyn talfyrru geiriau Gwyddeleg yn eu llawysgrifau. Yn yr enghraifft hon, sillefir yr enw Conchobar (sy’n ymddangos yma ar ôl y gair Clanna) gyda ‘c’ am yn ôl i gynrychioli ‘con’, a llinell fechan ar y ‘b’ i gynrychioli ‘ar’.

The Book of Ballymote / Leabhar Bhaile an Mhóta, ca. 1390
This book is hugely significant as it translates the ancient ogham alphabet, written with a series of lines carved in stone, into Irish.
Mae’r llyfr hwn yn hynod o bwysig gan ei fod yn cyfieithu’r wyddor ogham hynafol, a ysgrifennwyd gyda chyfres o linellau mewn cerrig cerfiedig, i’r Wyddeleg.

Welsh New Testament / Y Testament Newydd Cymraeg, William Salesbury, 1567
Because of a shortage of the letter 'k' in the London printing house, the common letter 'k' in Welsh was substituted for 'c' for the first time. We can thank this book, and its English printers, for 'Kymry' being spelt 'Cymru' today.
Roedd y llythyren ‘k’ yn llythyren gyffredin yn y Gymraeg, ond oherwydd nad oedd gan wasg argraffu yn Llundain lawer o ddarnau ‘k’ wrth law, defnyddiwyd ‘c’ yn eu lle am y tro cyntaf. Gallwn ddiolch, felly, i’r llyfr hwn, a’i argraffwyr yn Lloegr, am y ffaith fod ‘Kymry’ yn cael ei sillafu fel ‘Cymry’ erbyn heddiw.

Traethawd ar hynafiaeth ac awdurdodaeth Coelbren y Beirdd, Taliesin Williams, 1838
This book illustrates the 'bardic alphabet' specially created by Iolo Morganwg for the Welsh language. Despite some interest in the 19th century, the alphabet never caught on.
Mae’r llyfr hwn yn dangos y ‘wyddor farddol’ a grëwyd yn arbennig gan yr hynafiaethydd Iolo Morganwg ar gyfer yr iaith Gymraeg. Ond er gwaethaf y diddordeb yn y wyddor hon yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nid arhosodd yn boblogaidd iawn yn nes mlaen.

Stair na hEorpa, Mìcheál Breathnach, 1937
Up until the mid-20th century, Irish was still written in the old Gaelic script. As well as having some uniquely shaped letters,a dot was placed over a consonant where the letter 'h' would follow today.
Hyd at ganol yr 20fed ganrif, daliwyd i ysgrifennu’r Wyddeleg gan ddefnyddio sgript hen Aeleg. Yn ogystal â bod ganddi nifer o lythrennau ag iddynt siâp unigryw, rhoddid dotyn dros gytseiniaid lle byddai ‘h’ yn dilyn y llythyren heddiw.
Welsh Twitter account / Cyfrif Twitter Cymraeg, 2012
The evolution of writing Celtic languages continues today in the myriad ways web users change their language to express emotion and to save on time and space.
Mae’r modd y caiff ieithoedd Celtaidd eu hysgrifennu yn dal i ddatblygu hyd heddiw wrth i ddefnyddwyr y we newid eu defnydd o iaith mewn nifer o wahanol ffyrdd, er mwyn mynegi emosiwn ac er mwyn arbed amser a gofod.

