Gwaith myfyriwr ar y sgrin
19/12/2012
Fe fydd ffilm gan un o’n myfyrwyr ymchwil yn ymddangos ar S4C dros yr Ŵyl. Ceri Elen yw awdures y ddrama ‘Pianissimo’ a fydd yn ymddangos am 9.00 noson Gŵyl San Steffan. Ysgrifennodd Ceri'r sgript fel rhan o’i ffolio ysgrifennu creadigol ar yr MA yn y Gymraeg. Mae hi bellach yn astudio ar gyfer PhD mewn ysgrifennu creadigol ac yn edrych yn benodol ar y berthynas rhwng drama ac iaith.
Mae Ceri wedi mwynhau’r profiad yn arw: "Mae creu'r ffilm hon wedi bod yn brofiad anhygoel o gyffrous. Fe hoffwn ddiolch yn ddiffuant iawn i Manon Rhys a Manon Eames, tiwtoriaid yn Ysgol y Gymraeg, am eu cefnogaeth ar hyd y daith”.
Mae Ceri hefyd yn diwtor ysgrifennu creadigol a sgriptio yn yr Ysgol ac eleni fe gyhoeddodd ei nofel gyntaf i blant sef ‘Pentre Saith’ gyda gwasg y Lolfa.
Am ragor o wybodaeth am ein cyrsiau MA/MPhil a PhD cliciwch yma.

