Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Profiad Gwaith a Gyrfaoedd

Profiad Gwaith

Dros sawl blwyddyn bellach, mae myfyrwyr y flwyddyn olaf wedi bod yn treulio 20 awr yn gwneud profiad gwaith mewn gweithleoedd Cymraeg fel rhan o'r modiwl Cymraeg y Gweithle. Dyma fodiwl blaengar sydd yn rhoi blas i fyfyrwyr ar y modd y defnyddir y Gymraeg mewn gwahanol yrfaoedd. Aeth myfyrwyr i weithio mewn sefydliadau fel S4C, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ACCAC, Agenda, Ffilmiau'r Nant, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a chwmnïau cyfieithu (Prysg, Trosol, Testun, adran gyfieithu Cynulliad Cenedlaethol Cymru), a hefyd mewn ysgolion lleol. Bu eraill yn y BBC, lle y cawsant gyfle i lunio tudalennau gwe ar fywyd myfyrwyr yng Nghaerdydd.

Bu'r datblygiad hwn yn llwyddiant ysgubol, ac y mae sawl myfyriwr bellach wedi cael cynnig swydd barhaol yn y sefydliad y bu'n gweithio ynddo.

Gyrfaoedd

Mae agoriadau gyrfaol amrywiol iawn ar gyfer myfyrwyr sy’n graddio yn y Gymraeg.

Bob blwyddyn, bydd myfyrwyr o Ysgol y Gymraeg y mynd i swyddi sydd yn gysylltiedig â’r cyfryngau a chyfieithu. Bydd eraill yn dechrau ar yrfa ym myd gweinyddu, ac eraill yn mynd i ddysgu. Bydd nifer hefyd yn aros yn yr Ysgol i astudio am radd uwch: MA, MPhil, neu PhD.

Ond dim ond cyfran o’n myfyrwyr a fydd yn dilyn y llwybrau hynny: mae agoriadau eang iawn ar gyfer pobl a chanddynt gymwysterau yn y Gymraeg, gwybodaeth eang am Gymru a’i diwylliant, a sgiliau da wrth gyflwyno gwybodaeth, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Er enghraifft, mae cyn-fyfyrwyr o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn gweithio mewn sefydliadau megis Amgueddfa Werin Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, y Cynulliad Cenedlaethol, a’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae eraill yn gweithio ym myd marchnata a chyhoeddi llyfrau, rhai yn rheoli personél neu yn rheoli mewn siopau mawrion, a sawl un wedi ennill cymwysterau proffesiynol mewn meysydd megis gwaith cymdeithasol a’r gyfraith.

Yn sgîl Deddf yr Iaith Gymraeg, mae’r galw am bobl sy’n medru gweinyddu yn y Gymraeg ar bob lefel wedi cynyddu’n sylweddol, ac wedi ehangu ymhellach yn dilyn sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol.