Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Sylwadau'r Myfyrwyr

Heledd LewisHeledd Lewis, myfyrwraig gyfredol

 

"Roedd dewis astudio’r Gymraeg yn rhywbeth a ddaeth yn naturiol i mi – dyma’r pwnc wnes i fwynhau trwy gydol yr ysgol uwchradd – roeddwn i’n gallu mynegi fy hun yn yr iaith hon ac yn gwybod fy mod i eisiau dyfodol a oedd yn ymwneud â’r pwnc. Wrth astudio’r Gymraeg, rwy’n cael cyfle i astudio llenyddiaeth Cymru o’r Oesoedd Canol hyd at y gweithiau mwyaf diweddar. Mae hyn yn rhoi’r darlun cyflawn i unrhyw fyfyriwr o ddatblygiad yr iaith dros y canrifoedd, a’r newidiadau cymdeithasol a hanesyddol. Yn ogystal ag ysgrifennu’n feirniadol, mae cyfle ym Mhrifysgol Caerdydd i ddilyn modiwlau ysgrifennu creadigol ac mae hyn yn fy annog i ysgrifennu deunydd ar gyfer cystadlaethau fel yr Eisteddfod. Ond y rhinwedd orau am radd mewn Cymraeg yw ei bod yn agor cymaint o ddrysau i mi yng Nghymru, ac mae amrywiaeth y radd yn rhoi cyfle i mi ddangos fy ystod o sgiliau."

 

 

Anys Jones

Anys Jones, myfyrwraig gyfredol

 

"Dewisais astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd gan ei fod yn rhoi cyfle nid yn unig i astudio rhyddiaith a barddoniaeth Cymru ar hyd y canrifoedd ond hefyd i gael ysgrifennu’n greadigol ac astudio modiwlau megis ‘Cymraeg y Gweithle’ a ‘Cymraeg i Oedolion’. Mae’n gwrs amrywiol sy’n cynnig rhywbeth at ddant pawb. Mae’r cyfleoedd cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg sy’n cael eu cynnig yn y Brifysgol hefyd yn fuddiol. Credaf fod astudio’r Gymraeg fel pwnc gradd yn rhoi nifer o sgiliau angenrheidiol ar gyfer y byd gwaith heddiw. Yn y Gymru ddwyieithog hon mae gallu cynnig sgiliau dwyieithog i unrhyw gyflogwr o fantais ac mae’r modiwl ‘Cymraeg yn y Gweithle’ yn werthfawr gan ei fod yn rhoi cyfle i gael blas ar y gwahanol yrfaoedd sydd ar gael heddiw."

 

 

 

Llyr Gwyn Lewis

Llŷr Gwyn Lewis, a raddiodd yn 2009

 

"Ysgol gymharol fechan yw Ysgol y Gymraeg yng Nghaerdydd – ond mae hynny’n bell o fod yn beth drwg. Does yna byth ymdeimlad o bellter rhwng neb – rhwng y myfyrwyr a’i gilydd, nac ychwaith rhwng myfyrwyr a staff. Mi fydd y staff yn eich cyfarch chi yn y coridor, yn gwybod eich enw hyd yn oed, ac mae drysau eu swyddfeydd bob amser yn agored er mwyn ichi gael mynd yno i holi am rywbeth sy’n eich poeni, i drafod gwaith, neu’n syml am sgwrs ynghylch eich amser yn y Brifysgol.

Mae yma arbenigwyr ar bob elfen o’r Gymraeg, o’r ieithyddol i’r llenyddol, ac mae safon y dysgu’n uchel dros ben. Peth arall y bydd rhywun yn sylwi arno ydi bod cymaint o ymchwil yn digwydd ochr yn ochr â’r dysgu, boed hynny gan fyfyrwyr ôl-radd neu gan y staff dysgu eu hunain. Mae hynny’n arwydd bod yr Ysgol yn un fywiog a gweithgar, ac mae’n beth da gwybod bod y rhai sy’n eich dysgu chi yn arweinwyr yn eu maes!

Mae yna gyd-weithio clòs rhwng y myfyrwyr hefyd – pawb yn adnabod ei gilydd, ac yn cael hwyl – o fewn oriau dysgu a gyda’r nos! Mae yna gymuned Gymraeg ifanc fywiog dros ben yng Nghaerdydd ac mae hynny’n gymaint rhan o’r profiad academaidd â’r gwaith. Fyddwn i’n newid dim am fy mhrofiad hyd yma o fod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd; dyma’r lle i ddod i fod yn rhan o Ysgol fywiog a gweithgar, a chymuned Gymraeg ehangach sy’r un mor fyw hefyd."

 

 

 

Catrin Elis

Catrin Elis, a raddiodd yn 2007

 

"Rydw i bellach yn gweithio fel Swyddog Gweithredol Cyfathrebu ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, ac mae’r profiadau a gefais yn Ysgol y Gymraeg wedi bod o fudd mawr imi yn fy swydd bresennol. Roedd y dewis eang o fodiwlau sydd ar gael yn rhoi’r cyfle imi ddilyn y trywydd oedd o ddiddordeb i mi, ac yn ychwanegol at waith academaidd roeddem hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu ein sgiliau cyfathrebu a magu hyder trwy wneud cyflwyniadau llafar ac ati yn gyson. I goroni’r cyfan roedd llawer o hwyl i’w gael yn yr Ysgol, ac yno y gwnes i gyfarfod â rhai o’m ffrindiau pennaf!"

 

 

 

Huw Foulkes

Huw Foulkes, a raddiodd yn 2008

 

"Fel myfyriwr yn fy mlwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd, rwy'n ymwybodol iawn o'r ofn, y nerfusrwydd a'r cynnwrf o orfod symud o gefn gwlad i ddinas fawr a dechrau pennod newydd mewn bywyd. Y peth cyntaf sy'n eich taro am ardal y Waun Ddyfal (Cathays) yw'r amrywiaeth o ddiwylliannau gwahanol sydd yma. Wrth gerdded i ddarlith, mae'n ddigon hawdd taro ar nifer o grwpiau o fyfyrwyr sy'n siarad ieithoedd gwahanol; tipyn o newid i'r arfer o glywed y Gymraeg yn unig ar iard yr ysgol. Wrth addasu i'r diwylliant dinesig, rhaid bod yn agored i nifer o newidiadau a datblygiadau cymdeithasol. Ond, na hidiwch, cewch yn yr ardal hefyd ddigonedd o fyfyrwyr sydd yn yr un sefyllfa â chi.

Mae'r Gym Gym (Cymdeithas Gymraeg y Brifysgol) yn croesawu myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a thrwy gyfrwng croliau tafarn, tripiau i'r ddawns a'r Eisteddfod ryng-golegol, yn ogystal â thrip rygbi blynyddol i gefnogi Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad, mae rhywbeth at ddant pawb.

Mae symud i'r ardal fel symud i dref fechan sy'n rhan o ddinas fwy. Yn y Waun Ddyfal, mae nifer o siopau cornel, ambell i siop fechan sy'n rhan o gadwyn yr archfarchnadoedd yn ogystal â bwytai a thafarndai. Wrth gerdded deg munud un ffordd, rydych yng nghanol y ddinas ac wrth gerdded i'r cyfeiriad arall, rydych ar gampws y brifysgol – mae’r lleoliad yn berffaith. Y neuadd breswyl fwyaf poblogaidd ymysg y myfyrwyr Cymraeg ydi Llys Senghennydd ac yma mae'r rhan fwyaf o'r Cymry yn aros yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Ceir yma ddigonedd o hwyl ac rwy'n sicr y bydd eich blwyddyn gyntaf yno yn atgof melys am flynyddoedd i ddod. Ar ôl hynny, mae'n rhaid symud i dai ac nid oes prinder o gwbl yma – mae mwy o dai na sydd o fyfyrwyr ac felly, ni chewch unrhyw drafferth!

Felly, nac ofnwch yn ormodol – mae digon o bethau i'ch diddori a'ch cadw'n brysur yng Nghaerdydd ac yn ardal y Waun Ddyfal. Bydd eich cyfnod fel myfyriwr yma yn un a fydd yn aros yn y cof am byth ac yn sicr, erbyn diwedd yr wythnos gyntaf, bydd eich ofnau'n angof a chithau'n barod i wneud y gorau o'ch bywyd fel myfyriwr ar ôl gadael yr hen Wynedd am y Waun Ddyfal!"

 

 

Hywel Owen, a raddiodd yn 1996

"Dilynais gwrs gradd cyn cwblhau doethuriaeth, dan gyfarwyddyd yr Athro Colin H Williams, yn ystyried effaith dad-ddiwydiannu ar yr iaith Gymraeg yng Nghwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin. Yr oedd y cyfnod a dreuliais yn Ysgol y Gymraeg yn un dymunol iawn ac yr oedd awyrgylch hapus gyda’r darlithwyr yn gwneud i’r myfyrwyr deimlo’n gartrefol. Mwynheais fy nghyfnod yn fawr yn y Brifysgol ac yr wyf yn parhau i fyw a gweithio yng Nghaerdydd yn Llywodraeth Cynulliad Cymru."